Apelau Bandio Treth Gyngor

Os credwch fod band eich eiddo ar gyfer Treth Gyngor yn anghywir, dylech gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) yn gyntaf cyn cysylltu â'r Tribiwnlys Prisio. Mae'r ASB yn pennu lefel y gwerth y mae biliau'n seiliedig arno; ac felly, dylent gael cyfle i edrych ar y mater cyn ei godi gyda ni. Gallwch ddarganfod sut i gysylltu â'r ASB trwy eu prif dudalen we:

Valuation Office Agency - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae gan yr ASB ddyletswydd i sicrhau bod y band cywir yn cael ei roi ar eich eiddo. Os cânt eu perswadio gan yr hyn a ddywedwch, byddant yn newid y gwerth - ni waeth pryd y byddwch yn cysylltu â nhw neu am ba mor hir yr ydych wedi byw yn yr eiddo neu fod yn berchen arno. Fodd bynnag, os na fyddant yn derbyn yr hyn a ddywedwch a'ch bod am fynd â'r mater ymhellach, mae cyfyngiadau amser yn berthnasol pan allwch wneud "cynnig ysgrifenedig ffurfiol i newid y rhestr brisio". Gallwch wneud hynny o fewn chwe mis i ddod yn dalwr ardrethi ar gyfer yr eiddo neu o fewn chwe mis i'r ASB newid gwerth yr eiddo (os nad ydych yn cytuno â'r newid hwnnw).

Os oes cynnig ffurfiol dilys wedi'i wneud, mae gan yr ASB gyfnod o amser i geisio datrys y mater cyn y bydd yn ofynnol iddynt ei anfon at y Tribiwnlys Prisio i'w ystyried. Nid oes rhaid i chi apelio'n uniongyrchol i'r Tribiwnlys Prisio; mae'r atgyfeiriad atom yn digwydd yn awtomatig os na fydd yr ASB yn datrys y mater o fewn yr amser penodedig.

Pan fyddwn yn derbyn yr apêl, byddwn yn anfon llythyr atoch yn dweud wrthych ei fod wedi'i anfon atom. Bydd y llythyr yn eich cyfeirio at ganllawiau ar y wefan hon o ran sut y byddwn yn datblygu materion.

Nid ydym yn rhestru apelau ar unwaith i'w gwrando. Mae llawer o achosion yn dal i gael eu datrys gan yr ASB; dim ond ychydig o amser ychwanegol sydd ei angen arnynt. Hefyd, oherwydd bod yn rhaid i ni roi isafswm cyfnod rhybudd o bedair wythnos i bob parti cyn y gellir cynnal gwrandawiad mewn gwirionedd, mae ein rhaglen o gyfarfodydd wedi'i chynllunio o leiaf ddau fis ymlaen llaw. Felly gall fod yn dri neu bedwar mis neu fwy cyn i'ch apêl gael ei rhestru ar gyfer gwrandawiad.

Edrychwch ar ein tudalennau Nodiadau Canllaw a Chwestiynau Cyffredin am ragor o wybodaeth ddefnyddiol.