Apelau Bilio Treth Gyngor

Gallwch apelio i'r Tribiwnlys Prisio os ydych yn credu fod swm y Dreth Gyngor mae eich Cyngor yn ei godi arnoch yn anghywir, neu na ddylid codi tâl o gwbl. Fodd bynnag, dim ond ar ôl i chi ysgrifennu at y Cyngor ynglyn â'r mater y gallwch wneud hynny.

Rhaid i chi ganiatáu dau fis i'r Cyngor ymateb i chi. Os nad ydynt yn ymateb o fewn yr amser hwn, gallwch apelio atom gan ddefnyddio'r ffurflen isod. Fodd bynnag, rhaid i chi wneud hynny cyn i gyfanswm o bedwar mis fynd heibio ers i chi ysgrifennu at y Cyngor yn y lle cyntaf. Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen isod i apelio atom os yw'r Cyngor wedi ysgrifennu yn ôl atoch o fewn y ddau fis ac wedi gwrthod eich cais i newid eich bil Treth Cyngor. Os ydych wedi derbyn llythyr o'r fath, gallwch apelio atom o fewn dau fis o'i dderbyn. Mae angen cynnwys copi o lythyr gwrthod y Cyngor wrth ddychwelyd y ffurflen apêl.

Ffurflen a chanllaw apelio

Ffurflen a chanllaw apelio