Apelau Ardrethu Annomestig (ardrethi busnes)
Os credwch fod gwerth ardrethol eich eiddo ar gyfer ardrethi busnes yn anghywir, dylech gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) yn gyntaf cyn cysylltu â'r Tribiwnlys Prisio. Mae'r ASB yn pennu lefel y gwerth y mae biliau'n seiliedig arno; ac felly, dylent gael cyfleusdra i edrych ar y mater cyn ei godi gyda ni. Gallwch ddarganfod sut i gysylltu â'r ASB trwy eu prif dudalen we:
Valuation Office Agency - GOV.UK (www.gov.uk)
Os na fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn datrys y mater o fewn terfynau amser a bennir yn y gyfraith (bydd yr ASB yn dweud wrthych beth yw'r rhain), gellir codi'r mater gyda ni fel apêl. Bydd unrhyw beth sy'n ymwneud â rhestr ardrethu a wnaed cyn 1 Ebrill 2023 yn cael ei anfon atom yn awtomatig gan yr ASB. Ond os yw'r mater yn ymwneud â phrisiad eiddo a wnaed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd angen i chi lenwi ffurflen apêl a'i hanfon atom. Mae copi o'r ffurflen ar gael isod.
Dyma fideo sy'n esbonio'r broses yn fyr o 1 Ebrill 2023: