Coronafeirws (COVID-19)
Gwrandawiadau trwy gyswllt fideo
Rhaid i bartïon gyflwyno eu hachosion trwy gyswllt fideo. Mae hyn yn gofyn am gyflwyno unrhyw ddeunydd ysgrifenedig sawl diwrnod cyn y gwrandawiad ei hun. Fel rheol dylid cyflwyno deunydd yn electronig. Dim ond mewn achosion eithriadol y dylid cyflwyno deunydd ar bapur. Nodwch fod yr un terfynau amser yn berthnasol i gyflwyniadau electronig a phapur (gweler Protocol 2A (a) am fanylion).
Dylid cyfeirio POB cyswllt post â'r Tribiwnlys i'n swyddfa yng Nghasnewydd. Mae deunydd a anfonir i'n swyddfeydd eraill yn destun ailgyfeirio gan y Post Brenhinol, a bydd yn destun oedi.
Tribiwnlys Prisio Cymru
22 Gold Tops
Casnewydd
NP20 4PG
Mae POB cyswllt ffôn gyda'r Tribiwnlys nawr trwy 01633 255003. Peidiwch â defnyddio unrhyw rif arall.
Ein cyswllt e-bost cyffredinol yw: gohebiaethtribiwnlysprisiocymru
Penderfynu apeliadau trwy sylwadau ysgrifenedig
Mae'r Tribiwnlys yn parhau i benderfynu apeliadau o dan ei weithdrefnau Sylwadau Ysgrifenedig ffurfiol. Mae'r gweithdrefnau hyn yn dileu'r angen am wrandawiad llafar. Fodd bynnag, dim ond pan fydd pob parti wedi gwneud cytundeb i symud ymlaen fel hyn y gellir eu cyflawni. Mae'r Tribiwnlys yn annog partïon i wneud cytundeb o'r fath lle bynnag y bo modd. Cysylltwch â'r Tribiwnlys os hoffech wybod mwy am sut mae'r gweithdrefnau hyn yn gweithredu.
Croeso i dudalennau Cymraeg gwefan Tribiwnlys Prisio Cymru
Cynhyrchwyd y tudalennau yma i hysbysu gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd sy'n defnyddio Tribiwnlys Prisio Cymru am ein nodau ac i rannu gwybodaeth ddefnyddiol.
Defnyddiwch y tudalennau yma fel canolbwynt gwybodaeth am agweddau ar y system apelio yn dilyn trosglwyddiad apêl ardrethu, treth gyngor, neu apêl atebolrwydd i'r Tribiwnlys Prisio.
Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau a fyddai'n gwella neu'n ehangu'r safle yma.