Cwestiynau Cyffredin
Dyma restr o rai cwestiynau mwyaf cyffredin – am wybodaeth fanylach gweler ein hadran canllawiau os gwelwch yn dda.
- Beth yw Tribiwnlys Prisio Cymru?
- Beth yw Hysbysiad o Wrandawiad?
- Beth ddylwn ei wneud nesaf?
- Sut wyf yn paratoi fy achos cyn y gwrandawiad?
- Oes angen i mi gyfnewid unrhyw dystiolaeth â’r Swyddog Prisio neu’r Swyddog Rhestru cyn y Gwrandawiad?
- Oes angen i mi fynychu’r gwrandawiad?
- Beth yw trefn Gwrandawiad y Tribiwnlys?
- A fydd y Tribiwnlys yn fy hysbysu o’i benderfyniad ar y diwrnod?
- A yw’r Tribiwnlys yn gallu dyfarnu costau?
- A yw’r Tribiwnlys yn gallu adolygu ei benderfyniad?
- A allaf apelio yn erbyn y penderfyniad (Treth Gyngor)?
- A allaf apelio yn erbyn penderfyniad (Ardrethu Annomestig)?
- A allaf gwyno am y gwasanaeth a ddarparwyd?
Beth yw Tribiwnlys Prisio Cymru?
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru (TPC) yn sefydliad annibynnol sy'n ymdrin ag apeliadau am Ardrethi Annomestig a'r Dreth Gyngor. Llywodraeth Cymru sy'n ariannu Tribiwnlys Prisio Cymru.
Mae'r Tribiwnlys Prisio yn annibynnol o Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) a'r awdurdod bilio.
Mae aelodau'r Tribiwnlys yn bobl leol ac yn wirfoddolwyr. Er nad oes ganddynt gymwysterau proffesiynol efallai, maent yn derbyn hyfforddiant ffurfiol ac mae ganddynt brofiad o wrando ar apeliadau. Fel arfer, bydd tri aelod yn gwrando ar eich apêl, er y gall dau aelod wrando ar apêl os yw pawb yn cytuno i hynny. Bydd Clerc, a gyflogir gan y Tribiwnlys, yn cynghori ynglyn â'r gyfraith a threfn.
Mae'r Tribiwnlys Prisio yn darparu gwasanaeth rhad ac am ddim felly ni all ddyfarnu costau yn eich erbyn. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi dalu eich costau eich hun wrth fynychu gwrandawiad y tribiwnlys. Lle bynnag y bosibl, rydym yn clywed apeliadau yn lleol.
Beth yw Hysbysiad o Wrandawiad?
Mae'r hysbysiad hwn yn eich cynghori o'r dyddiad, yr amser a'r lleoliad y bydd y Tribiwnlys yn ystyried eich apêl. Os nad ydych yn gallu mynychu'r gwrandawiad, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Clerc ar unwaith.
Os oes gennych unrhyw anabledd neu unrhyw anghenion penodol ar gyfer yr ystafell gwrandawiad, rhowch wybod i'r Clerc Rhanbarthol ar unwaith os gwelwch yn dda, er mwyn gwneud y trefniadau angenrheidiol.
Beth ddylwn ei wneud nesaf?
Yn dibynnu ar y math o apêl, mae'n bosib i chi gytun'och apêl gyda'r Swyddog Rhestru (SR), y Swyddog Prisio (SP) neu'r Awdurdod Bilio (AB) cyn dyddiad y gwrandawiad ei hun. Pan ddeuir i gytundeb ar yr apêl, dylech roi gwybod i Glerc y Tribiwnlys cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol.
Gallwch dynnu'ch apêl yn ôl, yn ysgrifenedig, ar unrhyw adeg cyn dyddiad y gwrandawiad.
Sut wyf yn paratoi fy achos cyn y gwrandawiad?
Os ydych yn bwriadu ymddangos gerbron y Tribiwnlys, mae'n bwysig eich bod yn paratoi eich achos ymlaen llaw. Bydd o fudd i chi ddarparu gymaint o dystiolaeth ag sy'n bosib i gefnogi eich achos i'r Tribiwnlys.
Bydd yn rhaid i'r SP/SR gyflwyno tystiolaeth i ddangos sut maent wedi cyrraedd yr Asesiad Ardrethu/Bandio. Bydd y Tribiwnlys yn disgwyl i chi roi tystiolaeth i gefnogi eich achos eich hun.
Bydd y Tribiwnlys yn disgwyl fod partïon perthnasol i'r apêl wedi cytuno ar y ffeithiau sylfaenol ac wedi datgelu unrhyw wybodaeth y byddir yn dibynnu arni yn y gwrandawiad.
Efallai bydd y canllawiau canlynol yn eich cynorthwyo i baratoi a chyflwyno eich achos i'r Tribiwnlys:
- Sicrhewch fod cofnodion y SP/SR yn adlewyrchu gwir natur a maint eich eiddo ar adeg eich cynnig gwreiddiol.
- Trafodwch gyda'r SP/SR natur y gymdogaeth gyfagos a hefyd ffactorau a fydd, yn eich barn chi, yn effeithio ar werth eich eiddo.
- Gofynnwch pa eiddo mae'r SP/SR wedi ei ddefnyddio i gefnogi ei achos a dywedwch wrtho am unrhyw eiddo ychwanegol rydych yn ei ystyried yn debyg.
Oes angen i mi gyfnewid unrhyw dystiolaeth â’r Swyddog Prisio neu’r Swyddog Rhestru cyn y Gwrandawiad?
Os yw'r SP/SR yn cefnogi band eich eiddo ar sail tystiolaeth gwerthiant neu rent, mae'n rhaid iddynt eich hysbysu o hynny o leiaf bythefnos cyn gwrandawiad y Tribiwnlys. Cewch gyfle i archwilio a gwneud copïau o'r dystiolaeth hon. Os dymunwch, gallwch wedyn ofyn i'r SP/SR adael i chi archwilio'r dystiolaeth gwerthiant neu rent sydd ganddynt ar hyd at bedwar eiddo tebyg. Os yw'r SP/SR wedi defnyddio tystiolaeth gwerthiant neu rent ar ragor na phedwar eiddo, cewch chithau geisio gwybodaeth ar nifer cyffelyb.
Oes angen i mi fynychu’r gwrandawiad?
Gall y Tribiwnlys ddelio gyda'ch apêl mewn un o'r ffyrdd canlynol:
- Drwy wrandawiad cyhoeddus (a fynychir gan y partïon neu'u cynrychiolwyr, naill ai'n bersonol neu drwy gynhadledd fideo) oni bai fod y Tribiwnlys yn gorchymyn fel arall ar gais parti.
- Drwy gynrychiolaethau ysgrifenedig wedi eu gwneud gan yr holl bartïon i'r apêl, a dim un ohonynt â chaniatâd i ymddangos gerbron y Tribiwnlys. Os dymunwch i'ch apêl gael ei benderfynu yn y modd hwn, mae'n rhaid i chi gael cytundeb pob parti i'r apêl. Gall y Clerc eich cynghori ynglyn â dulliau gweithredu a therfynau amser. Gall Tribiwnlys sy'n penderfynu apêl drwy gynrychiolaethau ysgrifenedig ofyn i'r naill barti ddarparu tystiolaeth ychwanegol neu am i'r apêl gael ei glywed drwy wrandawiad ffurfiol.
- Drwy gyflwyniad ysgrifenedig. Os ydych am fynd ymlaen â'ch apêl, ond yn methu mynychu'r gwrandawiad, neu gael eich cynrychioli, gallwch gyflwyno eich dadleuon yn ysgrifenedig er mwyn i'r Tribiwnlys eu hystyried yn eich absenoldeb.
Beth yw trefn Gwrandawiad y Tribiwnlys?
Mae gweithrediadau'r gwrandawiad fel arfer yn anffurfiol, ond bydd y Tribiwnlys yn dilyn trefn er mwyn sicrhau fod y partïon i gyd yn cael cyfle i gyflwyno eu hachosion.
Bydd y Tribiwnlys yn penderfynu'r drefn y mae'r partïon yn cyflwyno eu hachos. Efallai y gofynnir i chi siarad yn gyntaf am mai chi yw'r apelydd, neu fe all y Tribiwnlys ofyn i'r SP neu'r SR ddechrau.
Pan ofynnir i chi gyflwyno eich tystiolaeth, gallwch alw unrhyw dystion i gefnogi eich achos. Wedi i chi gyflwyno eich tystiolaeth, efallai y bydd y SP/SR neu'r Tribiwnlys yn gofyn cwestiynau i chi ac unrhyw dyst. Yn yr un modd, pan fydd y SP/SR wedi cyflwyno ei achos, gallwch chi a'r Tribiwnlys ofyn cwestiynau i'r SP/SR ac unrhyw dyst. Mae'n bwysig sylweddoli y dylai'r partïon gyflwyno'r dystiolaeth yn llawn wrth wneud eu cyflwyniadau cychwynnol. Fel arfer, byddwch yn cael gwneud datganiad terfynol ond efallai y bydd unrhyw dystiolaeth newydd a gyflwynir ar yr adeg hon yn cael ei hanwybyddu.
Os nad ydych chi na'ch cynrychiolydd yn mynychu'r Tribiwnlys, neu yn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig iddo, mae gan y Tribiwnlys yr hawl i wrthod yr apêl.
A fydd y Tribiwnlys yn fy hysbysu o’i benderfyniad ar y diwrnod?
Bydd y Tribiwnlys fel arfer yn cadw ei benderfyniad. Ac mae'n ofynnol iddo ddarparu datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau ar eich cyfer cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol wedi'r gwrandawiad.
Efallai y bydd y Tribiwnlys, o ganlyniad i'w benderfyniad, yn gorchymyn i'r SP/SR newid y Rhestr Brisio neu'r Rhestr Ardrethu. Bydd y SP/SR yn hysbysu'r Awdurdod Bilio am y newid. Gall y gorchymyn hefyd gynnwys unrhyw beth arall sy'n angenrheidiol i weithredu penderfyniad y Tribiwnlys.
A yw’r Tribiwnlys yn gallu dyfarnu costau?
Nid oes gan y Tribiwnlys unrhyw rym i ddyfarnu costau. Felly, bydd yn rhaid i chi dalu eich costau eich hun (a chostau unrhyw gynrychiolydd) wrth baratoi eich achos a mynychu'r gwrandawiad h.y. costau teithio ’'r Tribiwnlys a.y.y.b.
A yw’r Tribiwnlys yn gallu adolygu ei benderfyniad?
Gall y Tribiwnlys adolygu ei benderfyniad ar y seiliau canlynol yn unig:
- gwnaethpwyd y cam-benderfyniad o ganlyniad i wall clerigol;
- ni fynychodd parti y gwrandawiad a gallant ddangos rheswm da dros beidio ag ymddangos; neu
- effeithir ar y penderfyniad gan benderfyniad yr Uchel Lys neu'r Tribiwnlys Tiroedd mewn perthynas â'r eiddo sy'n destun penderfyniad y Tribiwnlys.
Yn achos apeliadau Treth y Cyngor yn erbyn penderfyniadau awdurdodau bilio, mae sail ychwanegol ar gyfer adolygiad:
- mae buddiannau cyfiawnder fel arall yn gofyn am adolygiad o'r fath.
Os ydych yn dymuno gwneud cais am adolygiad ar unrhyw un o'r seiliau uchod, dylech gyflwyno cais ysgrifenedig i Glerc y Tribiwnlys gan nodi'r seiliau ar gyfer adolygiad. Gall cais am adolygiad gael ei wrthod os nad yw'n cael ei wneud o fewn pedair wythnos i'r dyddiad y cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi i'r partïon.
A allaf apelio yn erbyn y penderfyniad (Treth Gyngor)?
Mae gennych hawl i apelio i'r Uchel Lys ar bwynt o gyfraith. Mae'n rhaid gwneud y cais o fewn pedair wythnos o ddyddiad cyhoeddi'r penderfyniad neu'r gorchymyn perthnasol.
Fe all yr Uchel Lys ddyfarnu costau yn erbyn y parti aflwyddiannus.
A allaf apelio yn erbyn penderfyniad (Ardrethu Annomestig)?
Mae gennych hawl i apelio i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr - Tiroedd) os ydych wedi ymddangos gerbron y Tribiwnlys yn bersonol neu wedi cael eich cynrychioli. Mae'n rhaid gwneud y cais o fewn pedair wythnos i ddyddiad cyhoeddi'r penderfyniad neu'r gorchymyn perthnasol.
Fe all yr Uwch Dribiwnlys ddyfarnu costau yn erbyn y parti aflwyddiannus.
A allaf gwyno am y gwasanaeth a ddarparwyd?
Os oes gennych gwyn ynglyn â gweinyddu eich apêl, yn hytrach na phenderfyniad y Tribiwnlys, yna:
- Yn gyntaf, dylech ysgrifennu at Reolwr Gweithredol y Tribiwnlys yn y cyfeiriad gohebiaeth gyffredinnol, fel y gall ef neu hi ymchwilio i'r mater;
- Os ydych yn parhau yn anfodlon, gallwch ysgrifennu at Brif Weithredwr y Tribiwnlys, yn yr un cyfeiriad gohebiaeth gyffredinol.
Nodwch, os gwelwch yn dda, fod eich hawl i gwyno yn ymwneud â dulliau gweinyddol y Tribiwnlys Prisio yn unig. Nid yw'n ymestyn i unrhyw benderfyniad gan y Tribiwnlys yn dilyn gwrandawiad apêl, ac felly nid yw'n cymryd lle eich hawl i apelio i'r Uchel Lys neu'r Uwch Dribiwnlys.