Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
O 1 Ebrill 2013 mae gostyngiadau'r dreth gyngor (sydd weithiau'n cael eu galw'n gymorth y dreth gyngor) yn cymryd lle budd-dal y dreth gyngor sydd wedi cael ei ddiddymu. Caiff gostyngiadau'r dreth gyngor eu gweinyddu gan y Cynghorau o dan Gynlluniau sydd ar waith yng Nghymru. Mae'r Cynlluniau hyn yn rhoi'r rheolau y bydd y Cyngor yn eu defnyddio i weithio allan a ddylai person dderbyn gostyngiadau'r dreth gyngor i'w helpu i dalu eu treth gyngor ac os felly, faint.
Os nad ydych chi'n deall y ffordd y mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor wedi cael ei ddefnyddio wrth weithio allan eich bil treth gyngor, dylech siarad â'ch Cyngor lleol. Bydd ei fanylion cyswllt ar eich bil.
Os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad mae'r Cyngor wedi ei wneud am eich gostyngiadau treth gyngor, mae'n rhaid i chi ysgrifennu at y Cyngor yn y lle cyntaf i herio ei benderfyniad. Bydd gan y Cyngor ddau fis i ymateb i chi.
Os ydych yn anfodlon ar ymateb y Cyngor neu os nad yw'n ymateb i chi o fewn dau fis, byddwch yn gallu apelio'n uniongyrchol i'r Tribiwnlys Prisio.
Gallwch apelio i'r Tribiwnlys Prisio yn erbyn penderfyniad eich Cyngor o ran:
- a oes gennych hawl i ostyngiadau'r dreth gyngor o dan ei Gynllun; neu
- faint o ostyngiad treth gyngor mae'r Cyngor wedi ei ddyfarnu i chi o dan ei Gynllun.
Os ydych yn dymuno apelio i'r Tribiwnlys Prisio, gallwch ddefnyddio ffurflen apelio gostyngiadau'r dreth gyngor y mae modd ei llwytho i lawr o'r dudalen yma ar y wefan a'i danfon at Swyddfa Ranbarthol y Tribiwnlys sy'n cynnwys eich Cyngor chi. Hefyd, mae canllawiau a fydd yn eich helpu i gwblhau'r ffurflen apelio ar gael i'w llwytho i lawr o'r dudalen yma ar y wefan.
Mae'r dudalen yma ar y wefan yn cynnwys copi o'r taflenni canllaw a fydd yn mynd gyda'r Hysbysiadau a gaiff eu hanfon atoch chi gan y Tribiwnlys Prisio ar ôl iddo gofrestru eich apêl. Hefyd ar y dudalen yma mae modd dod o hyd i gopïau o'r ffurflenni y bydd gofyn i chi a'r Cyngor eu cwblhau ar ôl cydnabod derbyn eich apêl.
Os oes angen cymorth arnoch wrth gwblhau eich ffurflen apelio gostyngiadau'r dreth gyngor, gofynnir i chi gysylltu â Swyddfa Ranbarthol y Tribiwnlys sy'n cynnwys ardal eich Cyngor. Gallwch ddod o hyd i'r manylion cyswllt ar ein tudalen Swyddfeydd.
Nid yw'r Tribiwnlys Prisio yn delio ag apeliadau Budd-dal Tai neu faterion yn ymwneud â pheidio â thalu'r Dreth Gyngor.