Datganiad Hygyrchedd ar gyfer tribiwnlysprisio.cymru

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan tribiwnlysprisio.cymru.

Mae Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru wedi'i ymrwymo i wneud ei wefan mor hygyrch ag sy'n bosibl i bob defnyddiwr, i gyflawni ei fandad gwasanaeth cyhoeddus ac i ddiwallu ei rwymedigaethau statudol fel y'u diffiniwyd gan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.

Rydym eisiau i gymaint o bobl ag sy'n bosibl fedru defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, golyga hynny y dylech fedru:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb fod y testun yn llithro o'r sgrin
  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan yn defnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan yn defnyddio meddalwedd adnabod llais
  • defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan gyda rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau mwyaf diweddar JAWS, NVDA a VoiceOver)

Hefyd, rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud defnyddio eich dyfais yn haws os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydyn ni'n gwybod bod rhai rhannau o'r wefan hon heb fod yn gwbl hygyrch:

  • mae rhai tudalennau ac atodiadau dogfen heb eu hysgrifennu'n glir
  • does dim penawdau rhes gan rai tablau
  • dydy rhai elfennau pennawd ddim yn gyson
  • dydy rhai teitlau tudalen ddim yn unigryw
  • dydy rhai labeli ffurflen ddim yn unigryw
  • does dim testun amgen da gan rai delweddau
  • dydy rhai o'r testunau dolen ddim yn disgrifio pwrpas y ddolen
  • mae rhai dogfennau mewn fformat PDF a heb fod yn hygyrch

Adborth a gwybodaeth cysylltu

Adrodd am faterion yn ymwneud â hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydyn ni wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu yn credu nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: gohebiaethtribiwnlysprisiocymru

Gofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol

Os oes angen arnoch wybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel testun plaen, braille, BSL, print bras, hawdd ei ddarllen neu recordiad sain:

  • ebostiwch: gohebiaeth@tribiwnlysprisio.cymru
  • ffoniwch: 01633 255003

Bydd angen i chi roi gwybod i ni am:

  • cyfeiriad gwe (URL) yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch
  • y fformat yr hoffech ei dderbyn
  • pa dechnolegau cynorthwyol rydych chi'n eu defnyddio

Fe adolygwn eich cais a dod yn ôl atoch chi o fewn 15 diwrnod gwaith.

Request information in a different format

If you need information on this website in a different format like plain text, braille, BSL, large print, easy read or audio recording:

We'll need you to tell us:

  • the web address (URL) of the information you need
  • the format you would like to receive
  • which assistive technologies you use

We'll review your request and get back to you in 15 working days.

Gweithdrefn gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru wedi'i ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2).

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau, am beidio â chydymffurfio yn unol â'r isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Mae'r materion canlynol wedi'u datrys, fodd bynnag, gall nifer cyfyngedig o dudalennau gael eu heffeithio o hyd.

Meini prawf llwyddo wedi methu: maen prawf llwyddo WCAG 2.4.2 A (Teitl Tudalen).
Problem: Dydy rhai teitlau tudalen ddim yn unigryw. Dydyn nhw ddim yn disgrifio testun neu bwrpas y dudalen yn fanwl gywir.

Meini prawf llwyddo wedi methu: maen prawf llwyddo WCAG 2.1 2.4.4 A (Pwrpas dolen (Mewn Cyd-destun)).
Problem: Dydy testun dolen wedi'i gyfuno â chyd-destun dolen wedi'i bennu yn ôl rhaglen ddim yn nodi pwrpas y ddolen.

PDFs a dogfennau eraill

Dylai dogfennau newydd rydyn ni'n eu cyhoeddi i gyrchu ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.

Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o'n dogfennau hyn (a gyhoeddwyd cyn 01 Ionawr 2020) yn hygyrch. Er enghraifft, dydy rhai ohonyn nhw ddim:

  • wedi eu marcio i fyny mewn ffordd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr darllenydd sgrin eu deall
  • wedi eu tagio'n gywir, er enghraifft dydyn nhw ddim yn cynnwys penawdau go iawn
  • wedi'u hysgrifennu mewn Cymraeg clir

Mae rhai o'r rhain yn ddogfennau hanesyddol a dydyn nhw ddim yn hanfodol o ran darparu ein gwasanaethau. Wrth i'r dogfennau hyn gael eu disodli gan ganllawiau wedi'u diweddaru, byddwn yn sicrhau bod y dogfennau hyn yn hygyrch.

Os oes angen i chi gyrchu gwybodaeth yn un o'r mathau hyn o ddogfen, gofynnir i chi gysylltu â ni a gofyn am fformat gwahanol.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 28 Rhagfyr 2023. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 28 Rhagfyr 2023.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 28 Rhagfyr 2023. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol.

Defnyddion ni Offer Hygyrchedd a meddalwedd Profi AXE a SortSite Desktop i sganio ein holl dudalennau. Roedd y sganiau'n cynnwys cyfuniad o dempledau craidd, templedau a ddefnyddir yn gyffredin a thempledau cymhleth.

Fe brofon ni:

Ar 20 Hydref 2023, cynhaliodd Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU archwiliad o sampl cynrychioliadol o'n tudalennau ac o hynny nodwyd a datryswyd nifer o faterion cyffredin yn ymwneud â hygyrchedd.

Dogfennaeth

Mae rhai o'r dogfennau ar ein gwefan ond ar gael mewn fformat PDF. Nid yw rhai o'r dogfennau fformat PDF wedi'u creu gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru ond mae'n ofynnol i ni eu cyhoeddi. Mae rhai dogfennau fformat PDF yn ddogfennau sydd wedi'u trosi o'n gwefannau cynharach.

Fformatau ffeil amgen

Dylai defnyddwyr sydd angen ffeil mewn fformat gwahanol i'r hyn sydd ar gael ar y wefan hon ar hyn o bryd gysylltu â ni. Gwnawn ein gorau glas i ddelio â phob cais.