Polisi Preifatrwydd
Pa wybodaeth ydyn ni'n ei chasglu?
Os ydych yn ddefnyddiwr gyda mynediad cyhoeddus cyffredinol neu ddienw, nid yw gwefan Tribiwnlys Prisio Cymru yn cipio neu'n cadw gwybodaeth bersonol amdanoch chi. Y cyfan a wneir yw logio eich cyfeiriad IP sy'n cael ei adnabod yn awtomatig gan ein gweinydd gwe. Yr enw am hyn yw 'ffeil cofnodi' ac rydyn ni'n ei defnyddio i gasglu ystadegau am y defnydd o'r safle.
Nid yw'r safle yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ddefnyddwyr.
Dim ond un math o wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu gan ymwelwyr â'r wefan hon: adborth / ymholiadau.
Adborth / Ymholiadau
Rydym yn croesawu eich adborth neu ymholiadau. Os ydych yn cysylltu â ni yn gofyn am wybodaeth, gall fod angen i ni gysylltu ag adrannau eraill yn y llywodraeth i ddod o hyd i'r wybodaeth yna. Os yw'ch cwestiwn yn dechnegol, gall fod angen i ei anfon ymlaen at ein cyflenwyr technoleg.
Nid ydym yn anfon unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch ymlaen wrth ddelio â'ch ymholiad, oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud. Unwaith byddwn wedi eich ateb, byddwn yn cadw cofnod o'ch neges at ddibenion archwilio.
Y Ddeddf Diogelu Data
O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth rydym yn ei chasglu gennych. Rydym yn defnyddio technolegau a meddalwedd amgryptio blaenllaw i gadw eich data yn ddiogel, ac rydym yn cadw safonau diogelwch llym i rwystro unrhyw fynediad ati sydd heb ei awdurdodi.
Nid ydym yn anfon eich manylion ymlaen at unrhyw drydydd parti neu adran arall o'r llywodraeth.
If you wish to see our records of any correspondence you have sent to us, or if you have a query or complaint about this privacy policy or about the site, you can contact the correspondencevaluationtribunalwales
Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn
Os yw'r polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, gosodwn fersiwn wedi'i diweddaru ar y dudalen hon. Mae adolygu'r dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o ba wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu, sut rydyn ni'n ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, byddwn ni'n ei rhannu gyda phartïon eraill.