Swyddi
Clercod Tribiwnlys
£27,803 i £42,403 y flwyddyn
Casnewydd, Llanelwy neu'n gweithio gartref ledled Cymru
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn ceisio penodi nifer o Glercod Tribiwnlys. Mae Clercod Tribiwnlys yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi aelodau'r Tribiwnlys a sicrhau bod gwrandawiadau'n rhedeg yn esmwyth. Mae prif elfennau'r rôl yn cynnwys darparu arweiniad clir a chywir yn ystod gwrandawiadau ar gyfraith trethiant lleol yng Nghymru (Treth Gyngor ac Ardrethi Busnes) a pharatoi penderfyniadau ysgrifenedig wedi'u strwythuro'n dda.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â chefndir academaidd cryf. Byddem yn arbennig o filch o glywed gan bobl sydd â phrofiad a/neu gymwysterau ym maes refeniw lleol, yn ogystal â'r rhai sydd â gwybodaeth am brisio at ddibenion ardrethu. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu penodi i bwynt ar y raddfa gyflog sy'n briodol i'w cymwysterau a'u gwybodaeth gyfredol. Mae'r Tribiwnlys yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus a hyfforddiant.
Os ydych yn byw yng Nghasnewydd neu Lanelwy neu'n agos at y lleoliadau hynny, eich gweithle fydd eich swyddfa leol. Os ydych yn byw mewn ardal arall, byddwch yn gweithio gartref. Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol ar gyfer y rôl hon gan y bydd angen teithio'n rheolaidd ledled Cymru; telir treuliau teithio yn ogystal â lwfans defnyddiwr car hanfodol.
Ewch i'n gwefan am ragor o fanylion a chyfarwyddiadau ar sut i wneud cais am y swyddi hyn: www.tribiwnlysprisio.cymru
Dyddiad cau: 10 Ebrill 2026.

